Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
HEB 11
Y Bil Addysg Uwch (Cymru) – Cyfnod 1

Tystiolaeth gan : Swyddogion Perthnasol Awdurdod Addysg Ceredigion

YMATEBION i’R CWESTIYNAU COCH

1. Mae'r Memorandwm Esboniadol, a baratowyd gan Lywodraeth Cymru, yn disgrifio prif ddibenion y Bil drwy nodi mai:

"Yng nghyswllt y Bil, prif amcanion polisi Llywodraeth Cymru yw:

• sicrhau bod sefydliadau yng Nghymru, y mae eu cyrsiau'n cael eu cefnogi gan grantiau a benthyciadau a gynorthwyir gan Lywodraeth Cymru, yn cael eu rheoleiddio mewn ffordd gadarn a chymesur;

• diogelu'r cyfraniad a wneir at fudd cyhoeddus drwy gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i gefnogi addysg uwch;

• canolbwyntio'n gryf ar sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb yn ddiwahân; a

• chynnal a diogelu annibyniaeth sefydliadol a rhyddid academaidd prifysgolion.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni'r amcanion hyn drwy:

• sefydlu fframwaith rheoleiddiol newydd sy'n gymwys i bob darparwr addysg uwch yng Nghymru sydd am i'w cyrsiau gael eu dynodi'n awtomatig at ddibenion cymorth myfyrwyr;

• sicrhau nad yw'r rheolaethau rheoleiddio newydd yn dibynnu ar Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i ddarparu arian i'r sefydliadau a'r darparwyr hynny;

• ei gwneud yn ofynnol i bob darparwr addysg sy'n cael budd o gymorth ariannol Llywodraeth Cymru, o ran benthyciadau neu grantiau ffioedd myfyrwyr, gael statws elusennol;

• ei gwneud yn ofynnol i bob darparwr addysg y mae eu cyrsiau'n cael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth myfyrwyr i ymrwymo i weithredu i sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb yn gyfartal; ac

• adeiladu, cyhyd ag y bo'n bosibl, ar y system bresennol o reolaethau a bennwyd gan CCAUC o dan ei delerau ac amodau ariannu."

 

A oes angen Bil ar gyfer y dibenion hyn? Esboniwch eich ateb.

 

Mae prifysgolion yn sbardun pwysig i dwf economaidd ac yn allwedd i ffyniant Cymru yn y dyfodol, mae'n bwysig felly eubod yn cael y cynigion hyn yn iawn, er lles y myfyrwyr.

 

2. A ydych yn credu bod y Bil, fel y'i drafftiwyd, yn cyflawni'r amcanion a nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol? Esboniwch eich ateb.

 

Mae’n hynod bwysig cynnal darpariaeth Addysg Uwch o ansawdd uchel ar draws Cymru (gan gynnwys CAB). Mae'n bwysig felly bod mesurau priodol yn cael eu hystyried er mwyn sicrhau hyn.

 

3. A yw adrannau'r Bil, fel y'u drafftiwyd, yn briodol i gyflawni'r amcanion a ddisgrifir uchod? Os nad ydynt, pa newidiadau y mae angen eu gwneud i'r Bil?

 

Mae ansawdd y dysgu a'r addysgu yn elfennau pwysig i’w hystyried, mae'n hanfodol felly bod yr un system ar gyfer sicrwydd ansawdd yn cael ei gymhwyso i bob darparwr addysg uwch.

 

4. Sut y bydd y Bil yn newid yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar hyn o bryd, a pha effaith y bydd newidiadau o'r fath yn ei chael, os o gwbl?  

 

Mae’r canllawiau newydd yn annog prifysgolion i fanylu ar eu cynlluniau mewn meysydd megis hyfforddi athrawn a ‘phrofiad y myfyrwyr yn gyffredinol’ sydd yn feysydd pwysig i’w hystyried pan yn cynllunio / trafod mesurau perfformiad.

 

5. Beth yw’r rhwystrau posib i darpariaethau’r Bil ar waith (os ydynt yn bodoli), ac yw’r Bil yn rhoi ystyriaeth digonol iddynt?

 

Yn y ddogfen gweler yna gyfeiriad at ‘the proposal that in cases of persistent failure to comply with fee limits that HEFCW should be able to withdraw its approval of an approved plan’.  Dylid bod yna fesurau diogelu yn ei lle i sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael eu cosbi am fethiannau rheoli, sydd tu hwnt i’w rheolaeth, h.y. os bod HEFCW yn penderfynu atal y cyllid.

 

6. A oes gennych farn ynghylch y modd y daw'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

 

Gweler gyfeiriad at £6,000 fel swm y ffioedd trothwy ar gyfer myfyrwyr  llawn amser – ond hyd y gwelwn i nid oes yna lawer o ystyriaeth wedi bod i fyfyrwyr rhan amser/myfyrwyr mynediad (access), gan nad yw’r cyrisau yma yn cael eu hystyried o dan y fframwaith rheoleiddio newydd.